BioBlitz Bat Walk / Taith Gerdded Ystlumod BioBlitz
About
Join us for a special evening at Gaer Hill Fort and discover the hidden world of bats.As darkness falls, experienced bat enthusiast Peter Wilton-Jones will lead a guided walk around this historic hillfort, introducing participants to the bats that forage over its grasslands, scrub and woodland edges. Using bat detectors, we will listen to the high-frequency calls of different species and learn more about their fascinating behaviour and ecology.
Whether you are completely new to bats or already have an interest in wildlife, this is a wonderful opportunity to experience Gaer Hill Fort after dark and uncover some of the creatures that call it home.
Meeting point: Wells Close entrance, Newport, NP20 3LJ
What3Words: ///models.shiny.driven
Important information:
This is an outdoor event and involves walking over uneven ground.
Please wear sturdy footwear and dress appropriately for the weather.
We recommend bringing a torch.
Children must be accompanied by an adult.
The event is free, but places must be booked in advance.
This event is supported by Local Places for Nature 2025-27 grant funding provided by Welsh Government, administered by WCVA and managed by Newport City Council.
-------------------------------------
Ymunwch â ni am noson arbennig ym Mryngaer Croes Trelech a darganfod byd cudd yr ystlumod.
Wrth iddi dywyllu, bydd Peter Wilton-Jones, sy'n frwd dros ystlumod ac sy’n brofiadol iawn, yn arwain taith gerdded o amgylch y gaer fryniog hanesyddol hon, gan gyflwyno'r rhai sydd ar y daith i'r ystlumod sy'n chwilio am fwyd dros y glaswelltiroedd, y prysgoed ac ymylon coedwigoedd. Gan ddefnyddio teclynnau synhwyro ystlumod, byddwn yn gwrando ar alwadau amledd uchel gwahanol rywogaethau ac yn dysgu mwy am eu hymddygiad a'u hecoleg hynod ddiddorol.
P'un a ydych chi'n hollol newydd i fyd yr ystlumod neu eisoes â diddordeb mewn bywyd gwyllt, dyma gyfle gwych i brofi Bryngaer Croes Trelech ar ôl iddi dywyllu a darganfod rhai o'r creaduriaid sy’n galw’r lle yn gartref.
Man cyfarfod: Mynedfa Wells Close, Casnewydd NP20 3LJ
What3Words: ///models.shiny.driven
Gwybodaeth bwysig:
Digwyddiad awyr agored fydd hwn, ac mae'n golygu cerdded ar dir anwastad.
Gwisgwch esgidiau cadarn a gwisg sy'n addas ar gyfer y tywydd, os gwelwch yn dda.
Argymhellwn eich bod yn dod â thorsh.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Mae'r digwyddiad am ddim, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan gyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2025–27 a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ei weinyddu gan WCVA, a’i reoli gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Date
Friday 7 August 2026 8:45 PM - 10:30 PM (UTC+01)Location
Gaer Hill Fort
Wells Close, Newport, NP20 3LJ